Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 19 Medi 2016
Amser: 14.00 -
16.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3711
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Suzy Davies AC, Comisiynydd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett, Bartner Rheoli Matthew Mortlock Dave Thomas Mike Usher Emma Woodcock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 196KB) Gweld fel HTML (195KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Roedd Anthony Barrett (yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol) yn bresennol ar ei ran.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor blaenorol ar Lywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru.
2.2 Nododd y Pwyllgor sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cymru bod ymatebion Llywodraeth Cymru, yn ei farn ef, yn rhesymol ac yn rhoi sicrwydd bod camau naill ai'n mynd rhagddynt mewn meysydd lle y mynegwyd pryderon, neu fod camau wedi'u cynllunio ar gyfer y meysydd hynny.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch nifer o'r ymatebion i adroddiad y Pwyllgor blaenorol.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Aeth yr Aelodau ati i drafod a nodi'r ohebiaeth a chytuno i edrych eto ar y mater hwn ar ôl i ganfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod i law.
5.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.
5.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.
6.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y Fenter Dwyll Genedlaethol.
7.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Lywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd.
8.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai a'r ohebiaeth gysylltiedig.
9.1 Trafododd yr Aelodau'r deunydd briffio a gafwyd yn sgil adroddiadau diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghyd â'r papur cwmpasu ar ymchwiliadau posibl y gallai'r Pwyllgor eu harwain.
9.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:
· Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol: ailystyried a ddylid cynnal ymchwiliad ar ôl cael ymateb gan Lywodraeth Cymru;
· Y Fenter Dwyll Genedlaethol: nodwyd yr adroddiad a chytunwyd arno. Nid oes unrhyw gamau pellach ar gyfer y Pwyllgor;
· Kancoat: cytunwyd i gynnal un sesiwn dystiolaeth â Llywodraeth Cymru;
· Arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai: teimlai'r Pwyllgor fod y cynnydd yn araf mewn nifer o feysydd, a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr.
9.3 Ar ôl trafod yr ymchwiliadau posibl y gallai'r Pwyllgor eu harwain, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliadau i blant sy'n derbyn gofal a chymdeithasau tai.
10.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2015-16, gan holi Suzy Davies AC, Comisiynydd y Cynulliad, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
11.1 Trafododd Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o ran craffu ar adroddiad blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2015-16.